Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 9 Gorffennaf 2018 |
|
||||
Amser: |
12.35 - 15.10 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2018(6) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Adam Price AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Lowri Williams, Head of Human Resources Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
Eric Gregory, Cynghorwr Annibynnol
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Croesawyd Eric Gregory, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ACARAC) i'r cyfarfod. Croesawyd Adam Price, AC hefyd yn ôl o'i gyfnod tadolaeth.
1.2 Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd Datganiadau o Fuddiant.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd bod cofnodion 4 Mehefin yn gofnod cywir.
2 Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad 2017-18
Cyflwynodd Eric Gregory, Cadeirydd ACARAC, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor, yn unol â chylch gorchwyl ACARAC. Soniodd am nifer o agweddau ar brofiad y Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol. Yn benodol, tynnodd sylw at gofnod ardderchog y Comisiwn o ran gweithredu ar argymhellion yr Archwiliad Mewnol, rheoli risg yn gadarn a'r ymagwedd hyblyg tuag at reoli prosiectau sy'n cynnwys defnyddwyr wrth ddatblygu systemau.
Gwnaeth y Comisiynwyr sylwadau ar y datganiad llywodraethu da a chlir yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn yn dilyn blwyddyn gyntaf y Prif Weithredwr yn y swydd, a'r effaith gadarnhaol ar ddarllenadwyedd arddull newydd yr adroddiad blynyddol.
Nododd y Comisiynwyr Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Cynulliad, a fydd yn cael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor.
3 Rhaglen diwygio'r Cynulliad
Ystyriodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith ar raglen ddiwygio'r Cynulliad a chrynodeb o ganfyddiadau'r ymgynghoriad yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a gynhaliwyd rhwng 12 Chwefror a 6 Ebrill.
Ystyriodd y Comisiwn ganfyddiadau'r ymgynghoriad a gwnaeth nifer o benderfyniadau wrth baratoi ar gyfer gwneud cynigion deddfwriaethol, neu lunio eu dull o wneud y cynigion hynny. Cytunodd:
· mewn egwyddor, i gydweithio â Llywodraeth Cymru drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth ynghylch cynigion i newid rhyddfraint y Cynulliad.
· i gynnig deddfwriaeth ar y rhyddfraint a'r newid enw ar gyfer ei weithredu cyn etholiad 2021. Gallai ail Fil ar y system etholiadol a'r maint ddilyn os yw consensws trawsbleidiol ar y materion hynny yn dod i'r amlwg;
· gostwng yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16; ac
· eithrio rhai materion polisi o gwmpas gwaith diwygio'r Cynulliad: pleidlais carcharorion, hawliau pleidleisio i drigolion cyfreithlon Cymru waeth beth yw eu cenedligrwydd neu eu dinasyddiaeth, a rhannu swyddi i'r Aelodau.
Gofynnodd y Llywydd i'r Comisiynwyr gymryd dau fater penodol i'w trafod gyda'u grwpiau a rhoi adborth cyn diwedd y tymor. Y rhain oedd:
• y disgrifydd ar gyfer Aelodau ar ôl newid yr enw; a'r
• mater o anghymwyso mewn perthynas ag aelodaeth o Dŷ'r Arglwyddi. Cafodd hyn ei argymell gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol presennol.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddai'r Llywydd yn gwneud datganiad ysgrifenedig yn cyfleu penawdau'r ymgynghoriad, a'r penderfyniadau a wnaeth am ei strategaeth ddeddfwriaethol, ynghyd â chwmpas eang y Bil cyntaf ar ddiwygio etholiadol, cyn diwedd y tymor. Cytunwyd y bydd crynodeb o brif ganfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi o fewn ychydig wythnosau, gydag adroddiad llawn ar yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.
4 Strategaeth y Gyllideb - Cyllideb y Comisiwn 2019-20
Fel rhan o ddatblygiad parhaus Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2019-20, ystyriodd y Comisiynwyr nifer o agweddau sy'n dod i'r amlwg o ran eu dull o gyllidebu, a rhoddwyd cyfarwyddyd er mwyn i'r gwaith o baratoi'r gyllideb ddrafft barhau, yn barod i'w hystyried ym mis Medi.
Roedd eu hystyriaethau'n cynnwys:
• cytuno ar ymateb i'r llythyr ymgynghori gan Gadeirydd y Bwrdd Taliadau at y Llywydd ar ail ymgynghoriad y Bwrdd ar gynigion sy'n deillio o adolygiad o gymorth staffio i'r Aelodau;
• rhagolygon ar gyfer 2018-19;
• cyflwyno cyllideb ddrafft 2019-20, yng ngoleuni'r argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid; a
• phrosiectau blaenoriaeth posibl ar gyfer 2019-20.
Cytunodd y Comisiynwyr na ddylid cyhoeddi'r papur gwaith hwn. Caiff y gyllideb ddrafft ei gosod ar ôl ystyriaeth derfynol y Comisiwn ym mis Medi.
5 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft 2017-18
Cymeradwyodd y Comisiynwyr y drafft o'u Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, yn cwmpasu 1 Ebrill 2017 hyd at 31 Mawrth 2018, yn amodol ar unrhyw fân waith cywiro neu olygu. Cytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei osod cyn diwedd tymor yr haf a'i gyhoeddi ar-lein.
6 Adroddiad Blynyddol Drafft ar Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad, a gyflwynwyd gan Joyce Watson fel y Comisiynydd Cyfrifol, ac y dylid cyhoeddi'r adroddiad terfynol.
7 Contract glanhau'r Comisiwn
Dychwelodd y Comisiynwyr at y mater o opsiynau, a ystyriwyd gyntaf yn y cyfarfod ym mis Mehefin, ar gyfer adnewyddu'r contract gwasanaethau glanhau presennol, yn enwedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â thelerau ac amodau staff y contract.
Cytunodd y Comisiynwyr i ymestyn y contract cyfredol am flwyddyn er mwyn mapio'n llawn y gofynion ar gyfer y contract a thendro'r contract pan gaiff fframwaith nesaf y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ei gyhoeddi.
8 Papurau i’w nodi:
8.1 Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol diweddaraf.
8.2 Strategaeth Buddsoddi'r Bwrdd Pensiynau
Nododd y Comisiynwyr y strategaeth fuddsoddi a gytunwyd gan y Bwrdd Pensiynau.
9 Unrhyw fater arall
Swyddfa Brwsel - Nododd y Comisiynwyr fod Llywodraeth Cymru yn fodlon parhau â'r trefniant presennol ar gyfer Swyddfa'r Comisiwn ym Mrwsel, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yng Nghanolfan Cymru, Brwsel, ar yr un telerau tan ddiwedd mis Rhagfyr 2020.
Sesiynau ymwybyddiaeth seiber gan yr Aelodau a Staff Cymorth yr Aelodau - Nodwyd bod y nifer sy'n manteisio ar sesiynau briffio ymwybyddiaeth seiber yn gymysg, gofynnwyd i'r Comisiynwyr danlinellu ei bwysigrwydd gyda'u grwpiau.
Bwrdd Pensiynau - Cytunodd y Comisiynwyr y gellid ymgymryd â threfniadau ar gyfer cynrychiolydd y Comisiwn ar y Bwrdd Pensiynau y tu allan i'r cyfarfod os oes angen.